English English
Dilynwch ni

Tîm yr Elusen yn Mynychu Sioeau Teithiol Lles ar draws Powys

Delwedd o lyfrynnau gwybodaeth elusen Iechyd Powys
Gan Shania Jones

Yn ddiweddar, cafodd tîm yr elusen gyfle i gymryd rhan yn Sioeau Teithiol Lles 2024/25, cyfres o ddigwyddiadau a gynhaliwyd ar draws prif safleoedd ysbytai Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Dyluniwyd y sioeau teithiol hyn i gefnogi iechyd a lles staff wrth ddarparu llwyfan i’r elusen a sefydliadau eraill ymgysylltu’n uniongyrchol â’n staff gwych ac ymroddedig.

Drwy gydol y fenter, wnaeth tîm yr elusen ymweld â sawl lleoliad allweddol ar draws y rhanbarth, gan gynnig adnoddau, cefnogaeth a gwybodaeth am sut y gallai rhoddion elusennol fod o fudd i gleifion a staff.

“Ein ffocws oedd cefnogi lles y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol anhygoel sy’n gweithio’n ddiflino i ofalu am y gymuned,” meddai Rheolwr yr Elusen Martin O’Brien. “Roeddem yno i wrando, dysgu a siarad â staff am eu hanghenion, gan gynnig cefnogaeth ymarferol ac archwilio ffyrdd y gallai arian elusennol wneud gwahaniaeth.”

Cynhaliwyd y Sioeau Teithiol Lles mewn amrywiaeth o brif safleoedd ysbytai ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys, gan gynnwys:

  • Ysbyty Coffa Rhyfel Aberhonddu
  • Ysbyty Cymunedol Bronllys
  • Ysbyty Coffa Llandrindod
  • Ysbyty Cymunedol Bro Ddyfi, Machynlleth
  • Ysbyty Coffa Rhyfel Llanidloes
  • Ysbyty Cymunedol Ystradgynlais
  • Ysbyty Coffa Victoria, Y Trallwng
  • Clafdy Sirol Maldwyn, Y Drenewydd
  • Ysbyty Cymunedol Tref-y-clawdd
  • Canolfan Iechyd a Gofal Glan Irfon, Llanfair-ym-Muallt

“Roedd y sioeau teithiol yn ymwneud â chodi ymwybyddiaeth o’r adnoddau lles sydd ar gael i staff a sicrhau eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn eu rolau,” meddai Martin. “Ein nod oedd meithrin mwy o ymdeimlad o gymuned a thynnu sylw at y ffyrdd y gall rhoddion elusennol effeithio’n gadarnhaol ar y gweithlu a’r cleifion y maent yn gofalu amdanynt.”

Ar ôl cwblhau’r sioeau teithiol yn llwyddiannus, mynegodd dîm yr elusen ei ddiolchgarwch am y cyfle i gysylltu â staff a dyfnhau ei ymrwymiad i gefnogi iechyd a lles gweithwyr gofal iechyd ledled Powys.

Delwedd o Martin a Shania yn edrych ar daflen gwybodaeth elusen Iechyd Powys.

Erthyglau Eraill

Gweld y cyfan
Ymgyrchoedd

Dathlu’r Ŵyl trwy Godi Arian 2025!

Croeso i'r wefan a chroeso Llawen iawn i ddechrau ymgyrch Dathlu’r Ŵyl trwy Godi Arian 2025.

Agor gyda gwrthrych merched yn defnyddio laptop

Croeso i’n gwefan newydd!

Mae tîm Elusen Iechyd Powys wedi bod yn gweithio'n galed ar y wefan hon.

Delwedd o Cheryl yn gwisgo nws chariad.

Cheryl Samuel i Redeg Marathon Llundain 2026 ar gyfer Elusen Iechyd Powys!

Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi y bydd Cheryl Samuel yn cymryd rhan ym Marathon eiconig Llundain 2026 er budd Elusen Iechyd Powys!

Delwedd o booklet gwybodaeth Elusen Iechyd Powys a phensil yn cael ei rhoi i rywun

Cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr

Mae Elusen Iechyd Powys yn cyhoeddi cylchlythyr chwarterol, cofrestrwch i glywed am ein newyddion da, prosiectau newydd, ein hymgyrchoedd a chyfleoedd eraill o sut y gallwch ein cefnogi.