Taith Safle Ein Pen-blwydd yn 30 oed
Rydym wedi joio mas draw yn crwydro, cwrdd â chymaint o aelodau staff gwych, a rhannu mwy am ein helusen; yr hyn a wnawn, ein gweithgareddau pen-blwydd yn 30 oed sydd ar ddod, a sut y gallwn gefnogi adrannau ledled Powys. Rhoddodd yr ymweliadau hyn gyfle gwerthfawr inni gysylltu’n uniongyrchol â thimau, clywed am eu gwaith, ac archwilio sut y gall cyllid elusennol barhau i wneud gwahaniaeth i gleifion a staff.
Nid gwaith oedd y cyfan, serch hynny! Ar hyd y ffordd, fe wnaethon ni ychwanegu ychydig o hwyl gyda’n cystadleuaeth “Ble mae’r Bel”, lle’r oedd cyfle i gyfranogwyr lwcus ennill bag o bethau Elusen Iechyd Powys.
Llongyfarchiadau i’n holl enillwyr:
Diolch i bawb a gymerodd yr amser i ddod i siarad â ni. Gobeithiwn eich bod wedi mwynhau’r ymweliadau cymaint ag y gwnaethom ni.
Myfyriodd y Rheolwr Elusen Martin ar y profiad:
Beth Nesaf?
Mae ein dathliadau pen-blwydd yn 30 oed yn parhau gyda mwy o weithgareddau cyffrous o’n blaenau. Nesaf mae ein Naid Awyr i ddathlu’r Pen-blwydd yn 30 oed – cyfle gwych i ymgymryd â her newydd wrth godi arian hanfodol.
Rydym hefyd yn gyffrous i fod yn gweithio ar bartneriaeth arbennig gyda Cradoc’s Biscuits ar gyfer ein dathliadau pen-blwydd yn 30 oed, gyda mwy o fanylion yn dod yn fuan.
I nodi pen-blwydd Elusen Iechyd Powys yn 30 oed, fe wnaeth y Tîm ddosbarthu mwy nag 80 o hamperi te i dros 1,170 o aelodau staff ar draws Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Mae Elusen Iechyd Powys yn falch iawn o gyhoeddi lansio ei Chynllun Grant Bach 2026, sy'n cynnig cyllid i gefnogi prosiectau arloesol sy'n gwella iechyd a lles ledled Powys.
Mae ystafell synhwyraidd newydd wedi agor yng nghanolfan blant Ynys Y Plant yn y Drenewydd er cof am Sioned Harris a fu farw'r llynedd.