Dathlu 30 mlynedd o Elusen Iechyd Powys: Hamperi Te yn Dod â Staff at ei Gilydd Ar Draws Powys
I nodi pen-blwydd Elusen Iechyd Powys yn 30 oed, fe wnaeth y Tîm ddosbarthu mwy nag 80 o hamperi te i dros 1,170 o aelodau staff ar draws Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fel diolch o galon am eu gwaith caled, eu hymroddiad a’u hymrwymiad parhaus i gefnogi cleifion, teuluoedd a chymunedau ledled y sir.
Cynlluniwyd yr hamperi fel arwydd bach o werthfawrogiad, gan gydnabod y cyfraniad anhygoel y mae staff yn ei wneud bob dydd. Wrth i’r dathliadau barhau, mae wedi bod yn hyfryd gweld cydweithwyr yn dod at ei gilydd i fwynhau’r danteithion, myfyrio ar ben-blwydd carreg filltir yr Elusen a dathlu’r gwaith tîm sy’n sail i wasanaethau gofal iechyd ledled Powys.
Dros yr wythnosau diwethaf, mae staff o ystod eang o dimau wedi rhannu lluniau o’u dathliadau, gan ein helpu ni arddangos y bobl sy’n gwneud gwahaniaeth mor fawr i gleifion a chymunedau bob dydd.
Bu’r timau canlynol yn garedig iawn wrth rannu lluniau gyda ni fel rhan o’r dathliadau pen-blwydd yn 30 oed:
Mae ymateb y staff wedi bod yn wych, gyda thimau ledled Powys yn cofleidio’r cyfle i ddathlu’r garreg filltir arbennig hon gyda’i gilydd. Mae’r lluniau a dderbyniwyd wedi tynnu sylw nid yn unig at y mwynhad o’r hamperi eu hunain ond hefyd at yr ymdeimlad cryf o gymuned, cyfeillgarwch a phwrpas cyffredin sy’n bodoli ledled y sefydliad.
Ni fyddai’r dathliadau hyn wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth hael sawl busnes lleol a weithiodd gydag Elusen Iechyd Powys i helpu cydnabod a diolch i staff ledled y sir.
Diolch arbennig i Welsh Brew Tea/Paned Gymreig, Cradoc’s Savoury Biscuits a Popty Tan Y Castell, y bu eu cyfraniadau hael yn ganolbwynt i bob hamper. Galluogodd eu cefnogaeth i Dîm yr Elusen ddarparu danteithion lleol o safon i staff gan dynnu sylw hefyd at bwysigrwydd partneriaethau cymunedol wrth gefnogi gwasanaethau gofal iechyd ledled Powys.
Fel busnesau â gwreiddiau cryf yng Nghymru, roedd eu cyfranogiad yn adlewyrchu ysbryd y dathliadau’n berffaith, gan ddod â sefydliadau a staff lleol ynghyd i nodi 30 mlynedd o Elusen Iechyd Powys. Drwy eu haelioni, llwyddodd mwy na 1,170 o aelodau staff i fwynhau gwledd haeddiannol.
Hoffai Elusen Iechyd Powys estyn ei diolch diffuant i’r tri noddwr am helpu gwneud y fenter hon yn gymaint o lwyddiant.
Yn olaf, diolch i bob tîm sydd wedi rhannu lluniau gyda ni. Rydyn ni wedi bod wrth ein bodd yn gweld timau’n dathlu gyda’i gilydd ac yn ein helpu ni nodi’r garreg filltir bwysig hon. Mae Elusen Iechyd Powys yn edrych ymlaen at barhau i gefnogi cleifion, staff a gwasanaethau ledled Powys am flynyddoedd lawer i ddod.
Mae Elusen Iechyd Powys yn falch iawn o gyhoeddi lansio ei Chynllun Grant Bach 2026, sy'n cynnig cyllid i gefnogi prosiectau arloesol sy'n gwella iechyd a lles ledled Powys.
Dros y 10 wythnos diwethaf, mae Tîm Elusen Iechyd Powys wedi cael y pleser o ymweld â phob safle ledled Powys fel rhan o'n dathliadau pen-blwydd yn 30 oed.
Mae ystafell synhwyraidd newydd wedi agor yng nghanolfan blant Ynys Y Plant yn y Drenewydd er cof am Sioned Harris a fu farw'r llynedd.