Lles gydag Opera Cenedlaethol Cymru
Mae Lles gydag Opera Cenedlaethol Cymru yn rhaglen iechyd a lles sydd wedi’i chynllunio i gefnogi pobl â COVID Hir yng Nghymru. Datblygwyd y rhaglen gan Opera Cenedlaethol Cymru mewn partneriaeth â Byrddau Iechyd y GIG yng Nghymru a’i dreialu yn 2022. Roedd ar gael ledled Cymru gyfan ac mae cefnogaeth gan Elusen Iechyd Powys wedi caniatáu i’r rhaglen barhau i gael ei darparu ar draws Powys yn 2023.
Mae’r cyrsiau canu ac anadlu chwe wythnos yn digwydd ar-lein ac maent wedi’u cynllunio i gefnogi pobl a allai fod yn profi teimladau o ddiffyg anadl, gorbryder a blinder a allai barhau yn hirdymor ar ôl i symptomau cychwynnol feirws COVID-19 leddfu.
Arweinir y sesiynau gan Arbenigwyr Lleisiol OCC sy’n arbenigwyr mewn rheoli anadl, sydd bob wythnos yn tywys cyfranogwyr trwy dechnegau anadlu ac ymarferion canu y maent wedi’u meithrin yn ystod eu gyrfaoedd.
Cyflwynir sesiynau yn Gymraeg a Saesneg ac mae’r cyfranogwyr yn cael eu hatgyfeirio at y rhaglen yn dilyn asesiad gyda’u Gwasanaeth COVID Hir GIG lleol (y Gwasanaeth Byw’n Dda yn BIAP).
Yn 2023, canfuwyd bod tua 57,000 o bobl yng Nghymru wedi nodi bod ganddynt symptomau COVID Hir flwyddyn ar ôl cael eu heintio (ychydig llai na 2% o’r boblogaeth). Cafodd cyfanswm o 94,000 o bobl yng Nghymru COVID Hir yn y 12 mis cyn mis Mawrth 2023, ychydig dros 3% o’r boblogaeth, gan awgrymu effeithiau cymdeithasol sylweddol parhaus o ganlyniad.
Mae’r rhaglen yn galluogi cyfranogwyr i ymuno ag OCC mewn lleoliad hamddenol ac anffurfiol i archwilio rhai o’r technegau y mae Opera Cenedlaethol Cymru yn eu defnyddio wrth ganu a pherfformio sy’n helpu wrth reoli symptomau.
Mae’r ymarferion anadlu a’r technegau canu hyn yn cyfrannu at well rheolaeth o anadl, swyddogaeth yr ysgyfaint, cylchrediad ac osgo. Mae’r rhaglen hefyd yn helpu cysylltu cyfranogwyr ag eraill sy’n wynebu heriau tebyg ac yn helpu gyda hunanreolaeth ar ôl i’r rhaglen ddod i ben.
‘Cyn y sesiynau galw heibio, es i mewn i batrwm anadlu gwael iawn ac roedd angen help arnaf i ddod allan ohono. Yn benodol, yr ymarferion maen nhw’n eu cynnig a ddaeth â’m hanadl yn ôl. Rydych chi’n anadlu trwy gydol eich bywyd ond doedd gen i ddim syniad sut i anadlu ac fe wnaethon nhw fy helpu dod o hyd iddo eto. Nid yr elfen gorfforol yn unig ydyw, mae wedi fy helpu i’n feddyliol.
Pan fyddwch chi’n teimlo’n isel, mae’r sgwrs gydag eraill yn helpu. Rydw i’n llawer gwell na phan ddechreuais i. Dwi’n gallu gwneud 40% yn fwy ac yn feddyliol dwi’n 100% yn well oherwydd y cyswllt efo’r bobl ar y Zoom.
Mae’n beth gwych.’
– Cynfranogwr
Croeso i'r wefan a chroeso Llawen iawn i ddechrau ymgyrch Dathlu’r Ŵyl trwy Godi Arian 2025.
Mae tîm Elusen Iechyd Powys wedi bod yn gweithio'n galed ar y wefan hon.
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi y bydd Cheryl Samuel yn cymryd rhan ym Marathon eiconig Llundain 2026 er budd Elusen Iechyd Powys!