Dathlu’r Ŵyl trwy Godi Arian
Mae’n bleser gennym rannu newyddion ein hymgyrch Dathlu’r Ŵyl trwy Godi Arian 2024 gyda chi.
Hoffem fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb a gymerodd ran ac a gyfrannodd at ein hymgyrch Dathlu’r Ŵyl trwy Godi Arian a hefyd i bawb a helpodd gwneud i hyn ddigwydd, o reolwyr y ward a rheolwyr cartrefi gofal yn rhannu pa roddion i’w prynu; yr holl bobl a ddaeth i helpu lapio’r anrhegion; yr ystafelloedd post ar draws y sir; y tîm cludo ar gyfer dosbarthu’r anrhegion; a’r holl staff a oedd wedyn yn gallu rhannu’r eiliadau arbennig hynny gyda’n cleifion mewnol a’n preswylwyr ar Ddydd Nadolig.
Gweithiodd tîm yr Elusen yn ddiflino i ddod â phob peth at ei gilydd i wneud y Nadolig yn achlysur arbennig i bob claf a phreswylydd yn ysbytai a chyfleusterau cartrefi gofal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Roedd ein gofyn yn syml; cymryd Hunlun Nadoligaidd gyda’ch ffrindiau a’ch cydweithwyr yn gwisgo dillad Nadoligaidd, siwmper, sanau neu hyd yn oed yn gwisgo ychydig o dinsel! Yna cyfrannwch i’n hymgyrch. Roeddem yn gallu rhannu Hunlun Nadoligaidd newydd bob dydd ar draws mis Rhagfyr ar ein platfformau cyfryngau cymdeithasol, a oedd yn ymdrech aruthrol o gefnogaeth gan y timau ar draws ein Bwrdd Iechyd a chefnogwyr allanol yr ymgyrch.
Yr ymgyrch codi arian hon oedd prynu anrheg Nadolig a oedd yn cynnwys amrywiaeth o eitemau y gwnaeth rheolwyr y wardiau a rheolwyr cartrefi gofal ddweud wrthym yr oedd eu hangen ar ein cleifion mewnol, ein preswylwyr a’n mamau newydd i’w derbyn. Rhoddwyd hefyd cerdyn Nadolig i staff ysgrifennu neges Nadoligaidd arno.
Aeth y rhoddion hyn tuag at brynu’r anrhegion gan wahanol gyflenwyr fel The Works ac Earthbound Organics. Rydym yn ddiolchgar iawn i’n holl roddwyr a hoffem ddiolch yn arbennig i BlueStag, Clwb Rotari Tref-y-clawdd a Chynghrair Cyfeillion Aberhonddu, defnyddiwyd y rhodd olaf yn benodol ar gyfer rhoddion a roddwyd yn Ysbyty Aberhonddu.
Mae angen i ni hefyd ddiolch yn fawr i’n corachod anhygoel a helpodd i lapio’r holl anrhegion hyn! Oherwydd eu hymdrechion, roedd 210 anrheg i gleifion mewnol a phreswylwyr yn ogystal â 12 anrheg i gleifion famau newydd/newydd-anedig wedi cael eu rhoi ar fore Nadolig.
Codwyd cyfanswm o £798, swm aruthrol ar gyfer ein digwyddiad Dathlu’r Ŵyl trwy Godi Arian. Roedd Elusen Iechyd Powys wedi cefnogi ariannu’r gwahaniaeth rhwng yr hyn a godwyd a’r hyn oedd ei angen i brynu’r anrhegion.
Mae hyn yn gadael tîm Elusen Iechyd Powys heb unrhyw beth arall i’w ddweud ond unwaith eto diolch yn fawr iawn i bawb a gymerodd ran. Welwn ni chi flwyddyn nesaf!
Croeso i'r wefan a chroeso Llawen iawn i ddechrau ymgyrch Dathlu’r Ŵyl trwy Godi Arian 2025.
Mae tîm Elusen Iechyd Powys wedi bod yn gweithio'n galed ar y wefan hon.
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi y bydd Cheryl Samuel yn cymryd rhan ym Marathon eiconig Llundain 2026 er budd Elusen Iechyd Powys!