Cymerwch y Naid ar gyfer Pen-blwydd Elusen Iechyd Powys yn 30 oed!
Yn 2026, mae Elusen Iechyd Powys yn dathlu carreg filltir nodedig, 30 mlynedd o gefnogi iechyd a lles ledled Powys. I nodi’r achlysur, rydym yn eich gwahodd i ymuno â ni am brofiad bythgofiadwy: Plymio o’r Awyr i’r Elusen ym Maes Awyr Abertawe.
Dyma eich cyfle i wneud rhywbeth eithriadol. Efallai ei bod ar eich rhestr o bethau i’w gwneud ers blynyddoedd neu a ydych chi’n chwilio am ffordd feiddgar o gefnogi achos gwych, mae’r digwyddiad hwn yn addo bod yn gyffrous ac yn ystyrlon.
Bydd yr holl arian a godir yn mynd yn uniongyrchol i Elusen Iechyd Powys, gan ein helpu ni barhau â’n gwaith yn cefnogi cleifion, staff a gwasanaethau ledled Powys.
Sut i Sicrhau Eich Lle
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin. I gymryd rhan:
Unwaith y bydd y tri cham wedi’u cwblhau, bydd eich lle wedi’i gadarnhau—ac mae eich taith codi arian yn dechrau.
Ydych Chi’n Ddigon Dewr?
Mae hyn yn fwy na neidio o awyren yn unig. Mae’n ddathliad, yn her, ac yn gyfle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ymunwch â ni i wneud pen-blwydd Elusen Iechyd Powys yn 30 oed yn un i’w gofio.
Croeso i'r wefan a chroeso Llawen iawn i ddechrau ymgyrch Dathlu’r Ŵyl trwy Godi Arian 2025.
Mae tîm Elusen Iechyd Powys wedi bod yn gweithio'n galed ar y wefan hon.
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi y bydd Cheryl Samuel yn cymryd rhan ym Marathon eiconig Llundain 2026 er budd Elusen Iechyd Powys!