Arwyddion Cyfeillgar i Ddementia
Ym mis Hydref, cefnogodd Elusen Iechyd Powys brosiect ar gyfer hysbysfyrddau, posteri ac arwyddion i helpu darparu amgylchedd gwell i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth sy’n byw gyda dementia yn ein safleoedd ysbyty cymunedol.
Y nod oedd eu helpu nhw lywio ein hysbytai a’n wardiau yn rhwydd, yn ogystal â darparu arddangosfeydd amlwg ar gyfer gwybodaeth. Roedd y prosiect hwn ar gyfer pob ysbyty cymunedol ym Mhowys fel rhan o fenter i ddarparu mwy o amgylcheddau sy’n gyfeillgar i ddementia i gleifion a’u teuluoedd.
“Bydd y gwelliannau rydych chi wedi’u rhoi ar waith yn gwneud gwahaniaeth ENFAWR nid yn unig i bobl fel fi ond i unrhyw un sy’n cyrraedd yno. Mae’r arwyddion newydd, y bwrdd apwyntiadau a’r drysau lliw gwahanol, amlwg yn gwneud y cyfan mor glir.
Mae’n gwneud i rywun deimlo eich bod wedi cyrraedd cyfleuster modern lle byddwch yn derbyn y driniaeth a’r gofal sydd ei angen arnoch, sydd mor galonogol.”
– Defnyddiwr gwasanaeth yn Ysbyty Bronllys
Yn 2026, mae Elusen Iechyd Powys yn dathlu carreg filltir nodedig, 30 mlynedd o gefnogi iechyd a lles ledled Powys.
Croeso i'r wefan a chroeso Llawen iawn i ddechrau ymgyrch Dathlu’r Ŵyl trwy Godi Arian 2025.
Mae tîm Elusen Iechyd Powys wedi bod yn gweithio'n galed ar y wefan hon.