Rydym yn defnyddio’ch rhoddion i helpu sicrhau profiad gwell o dderbyn gwasanaeth iechyd Powys. Mae ein staff a’n cleifion yn dewis ein prosiectau, sy’n golygu ein bod yn cefnogi’r hyn sydd ei angen fwyaf, yn y lle iawn, ar yr adeg iawn, gan y bobl sy’n gwybod orau.
O wella wardiau a gerddi, gwella cysur cleifion a staff, darparu offer newydd neu gyflwyno prosiectau celf therapiwtig, rydym yn cefnogi’r gwahaniaethau bach a all olygu cymaint i’n staff, ein cleifion a’n cymunedau.
Croeso i'r wefan a chroeso Llawen iawn i ddechrau ymgyrch Dathlu’r Ŵyl trwy Godi Arian 2025.
Mae tîm Elusen Iechyd Powys wedi bod yn gweithio'n galed ar y wefan hon.
Rydym wrth ein bodd yn cyhoeddi y bydd Cheryl Samuel yn cymryd rhan ym Marathon eiconig Llundain 2026 er budd Elusen Iechyd Powys!
Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Elusen Iechyd Powys.