English English
Dilynwch ni

Ymgyrchoedd

Banner gwefan Elusen Iechyd Powys ddau galon

Dathlu'r Ŵyl trwy Godi Arian

Nod ein digwyddiad Dathlu’r Ŵyl trwy Godi Arian blynyddol yw rhannu hwyl yr Ŵyl i’r holl gleifion, preswylwyr a mamau beichiog ar draws ysbytai a chartrefi gofal Bwrdd Iechyd Addysgu Powys dros dymor y Nadolig. Mae’r fenter galonogol hon yn sicrhau bod pawb yn derbyn anrheg Nadolig. Gall llawer o’r unigolion hyn fod yn treulio’r gwyliau ar eu pennau eu hunain, wedi’u gwahanu oddi wrth euteuluoedd oherwydd salwch neu anghenion gofal, a gallent deimlo eu bod ar eu pen eu hunain yn ystod y cyfnod arbennig hwn. Diolch i haelioni rhoddwyr a chefnogaeth gwirfoddolwyr, mae’r ymgyrch yn cael effaith barhaol ar y rhai a allai fel arall golli allan ar lawenydd yr Ŵyl.

Ymunwch â ni yn y traddodiad blynyddol gwych hwn drwy naill ai gyfrannu, gwirfoddoli, neu ymuno â hwyl yr Ŵyl. Mae sawl ffordd y gallwch gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth. Os oes gennych ddiddordeb helpu ni, gwnewch y Nadolig nesaf yr un mor arbennig, cysylltwch â’n tîm i gael mwy o wybodaeth am sut y gallwch gyfrannu. Gyda’n gilydd, gallwn ddod â gwên a goleuni’r tymor i’r rhai sydd ei angen fwyaf.

Cysylltu â niJustGiving

Marathon Llundain 2026

Mae Elusen Iechyd Powys wedi sicrhau lle ym Marathon Llundain ar gyfer 2026! Mae hwn yn gyfle gwych i’r rhai sydd am ymgymryd ag un o rasys mwyaf eiconig y byd tra’n cefnogi achos gwych. Ni waeth a ydych chi’n rhedwr profiadol neu’n rhedeg marathon am y tro cyntaf, byddem wrth ein bodd pe baech yn rhan o’r daith gyffrous hon.

Os oes gennych ddiddordeb cymryd rhan, codi arian, neu ddysgu mwy, cysylltwch â’n tîm i gael gwybod sut y gallwch gymryd rhan. Gadewch i ni wneud 2026 yn flwyddyn i’w chofio!

Cysylltu â ni
Posteri Hyrwyddo Miliau Mai. Darluniau o bobl yn gwneud gweithgareddau amrywiol gan ddarllen, beicio, nofio

Milltiroedd Mai

Mae ein hymgyrch yn ymwneud â chael hwyl a mesur pa mor bell y gallwn fynd. Rydym yn annog pawb i gymryd rhan mewn gweithgareddau y maent yn eu mwynhau ac olrhain eu cynnydd. Gallwch redeg, beicio, nofio, cerdded bryniau (wedi’r cyfan, rydyn ni ym Mhowys!), neu hyd yn oed rhywbeth ychydig yn fwy creadigol fel:

  • Darllen – mesur hyd llinell mewn llyfr, yna lluosi â nifer y llinellau ar dudalen a nifer y tudalennau.
  • Gwau – cyfrwch nifer y peli o wlân rydych chi’n eu defnyddio neu fesur hyd sgarff rydych chi’n ei chreu.
  • Pobi – mesur lled cacen a’i lluosi â faint rydych chi’n ei wneud (perffaith ar gyfer stondin cacennau!).

Y nod yw cefnogi lles drwy annog pobl i wneud rhywbeth maen nhw’n ei fwynhau neu ymgymryd â her hwyl. Bydd gennych fis Mai cyfan i gronni eich pellter, ac os hoffech godi arian ar hyd y ffordd, hyd yn oed yn well!

Gallwch ddewis eich nod personol sy’n teimlo’n iawn i chi neu gyfri’r milltiroedd a rhoi gwybod i ni pa mor bell rydych chi wedi teithio. Gobeithiwn y bydd hyn yn dod â phobl at ei gilydd ar gyfer her hwyl ac ystyrlon. Gadewch i ni symud a gweld pa mor bell y gallwn fynd—gyda’n gilydd!

Cysylltu â niDarllen am Filltiroedd Mai 2025
Delwedd o booklet gwybodaeth Elusen Iechyd Powys a phensil yn cael ei rhoi i rywun

Cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr

Mae Elusen Iechyd Powys yn cyhoeddi cylchlythyr chwarterol, cofrestrwch i glywed am ein newyddion da, prosiectau newydd, ein hymgyrchoedd a chyfleoedd eraill o sut y gallwch ein cefnogi.