English English
Dilynwch ni

Rhoi

Diolch am ystyried gwneud rhodd.

Banner gwefan Elusen Iechyd Powys ddau galon
Aelod o staff Bwrdd Iechyd Addysg Powys gyda braich o amgylch claf.

Cyfrannu at Elusen Iechyd Powys

Gall eich rhoddion wneud byd o wahaniaeth i brofiad ein cleifion, ein hamgylchedd staff ac i grwpiau cymunedol sy’n helpu cefnogi iechyd a lles pobl Powys. O wella wardiau a gerddi i wella cysur cleifion a staff, darparu offer newydd neu gyflwyno prosiectau celf therapiwtig – defnyddir eich rhoddion lle mae eu hangen fwyaf, sy’n cael eu dewis gan staff a chleifion.

Mae JustGiving yn ffordd ddiogel o gyfrannu.

JustGiving
Llun o dwll gwyrdd naturiol wedi'i wneud o goed, llwyni, canghennau, a phlanhigion. Agor i gerddi coffa'r milwyr yn Ysbyty Bronllys.

Gwneud rhodd er cof am rywun

Mae llawer o’r bobl wych sy’n cyfrannu at ein helusen yn gwneud hynny er cof am rywun annwyl, yn aml fel diolch neu gydnabyddiaeth o’r gofal neu’r gefnogaeth maen nhw wedi’i dderbyn.

Os hoffech chi, fel teulu neu ffrind (neu grŵp o ffrindiau) godi arian fel teyrnged i rywun annwyl neu berson arbennig rydych chi wedi’i golli, byddem yn falch iawn o’ch helpu chi wneud hyn.

Cysylltwch â’r tîm os hoffech drafod eich cynlluniau gyda ni.

Codi arianCysylltu â ni
Pâr yn eistedd ar fainc gyda golygfa hardd o llyn Powys.

Gadael rhodd i ni yn eich Ewyllys

Ar ôl i chi wneud trefniadau i adael anrhegion i deulu, ffrindiau neu anwyliaid yn eich Ewyllys, mae gadael cymynrodd i Elusen Iechyd Powys yn ffordd o sicrhau bod eraill yn derbyn cefnogaeth gennym ymhell i’r dyfodol.

Camsyniad cyffredin yw bod yn rhaid i etifeddiaeth fod yn swm enfawr o arian, ond nid yw hyn yn wir. Ni waeth pa mor fach neu mor fawr yw’ch rhodd, gallwch fod yn sicr y bydd yn gwneud gwahaniaeth cadarnhaol.

Os byddwch yn penderfynu cefnogi Elusen Iechyd Powys fel hyn, rhaid i chi benderfynu yn gyntaf pa fath o rodd yr hoffech ei gadael – cymynrodd ariannol (swm sefydlog o arian) neu gymynrodd weddilliol (canran o’ch ystâd). Rydym yn eich annog i ymgynghori â chyfreithiwr ar yr hyn sydd orau ar gyfer eich amgylchiadau penodol.

Rydym yn argymell eich bod yn defnyddio cyfreithiwr i ddrafftio’ch ewyllys i sicrhau bod y geiriad yn bodloni eich dymuniadau. Mae Ewyllys sydd wedi’i drafftio’n briodol yn sicrhau y bydd eich dymuniadau’n cael eu hanrhydeddu.

Fel arall, rydyn ni wedi partneru gydag Elusennau’r GIG i roi canllaw Elusennau’r GIG am ddim i chi. Gallwch gyrchu hyn yma.

Gofynnir i ni yn aml sut y gall defnyddio rhoddion i ariannu gwaith penodol neu brynu darn penodol o offer. Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gadw at ddymuniadau ein cefnogwyr bob amser ond cofiwch erbyn i’ch Ewyllys ddod yn effeithiol, efallai bod y dirwedd gofal iechyd wedi newid o ran offer a thriniaethau. Felly, gwneud eich rhodd i gronfa benodol yn hytrach nag at ddiben penodol yw’r ffordd orau bosibl i’ch rhodd gael yr effaith gadarnhaol y mae’n ei haeddu.

Cysylltu â ni
IDelwedd o staff Elusen Iechyd Powys ar ymweliad â gwesty Machynlleth ynghyd ag ychydig aelodau o staff.

Rhoddion

Rhoddion trwy Arian Parod

Os ydych chi’n bwriadu rhoi arian parod, bydd angen i chi ei roi i aelod o staff gweinyddol ar eich ward neu’ch ysbyty lleol. Os nad ydych yn siŵr at bwy i roi’r rhodd, cysylltwch ag aelod o’r tîm Elusen.

Rhoddion trwy Siec

Os ydych chi’n bwriadu defnyddio siec i roi eich arian, bydd angen i chi anfon y siec i’r cyfeiriad canlynol, ynghyd â’ch enw, manylion cyswllt a gwybodaeth ychwanegol os ydych chi am gyfrannu at ward, gwasanaeth neu ysbyty penodol.

Mae angen i bob siec fod yn daladwy i Gronfa Elusennol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Cronfa Elusennol Bwrdd Iechyd Addysgu Powys,
Yr Adran Gyllid,
Ysbyty Bronllys,
Aberhonddu,
Powys,
LD3 0LY.

Cysylltu â ni
Delwedd agos o rywun yn llenwi ffurflen ddatganiad

Ffurflen datganiad rhodd

Gallwch ofyn i'ch rhodd gael ei defnyddio at ddiben penodol, er enghraifft i brynu darn o offer neu i fynd at wasanaeth neu grŵp staff dynodedig (cyn belled â bod modd i ni wneud hynny'n gyfreithlon). Dim ond pan fyddwch yn gwneud eich rhodd y mae angen i chi wneud hyn yn glir. Os nad ydych, byddwn yn defnyddio'ch rhodd lle mae ei hangen fwyaf ar draws Powys.

Ar ôl ei gwblhau, dychwelwch y ffurflen i pthb.charity@wales.nhs.uk

Dogfen PDF
119 KB
Lawrlwytho PDF

Gwybodaeth Gyffredinol

Rhodd Cymorth

Mae Rhodd Cymorth yn rhyddhad treth sy’n caniatáu i elusennau’r DU adennill 25% yn ychwanegol mewn treth ar bob rhodd gymwys a wneir gan drethdalwr yn y DU.

Fel trethdalwr yn y DU byddwch yn talu treth ar eich enillion, cynilion neu bensiynau. Os ydych chi’n rhoi at elusen, daw’r rhodd hon o arian rydych eisoes wedi talu treth arno. Yna gall Ein Helusen adennill y dreth yn ôl gan y Llywodraeth. Mae’n bwysig nodi bod yr arian ychwanegol hwn yn mynd i’r Elusen gan y Llywodraeth, felly nid yw’n dod allan o’ch poced chi.

Trwy ddewis rhodd cymorth, mae’n caniatáu ychydig yn ychwanegol i fynd at eich Elusen ddewisol, efallai na fydd yn ymddangos fel llawer, ond gall hyd yn oed y symiau lleiaf wneud y gwahaniaeth mwyaf.

I fod yn gymwys, mae’n rhaid i chi:

  1. Fod yn drethdalwr yn y Deyrnas Unedig
  2. Mae’r dreth a dalwch yn y flwyddyn ariannol, o leiaf, yn hafal i’ch rhoddion i elusen.

Os ydych chi’n rhoi trwy’r platfform Just Giving, mae optio mewn am rodd cymorth yn syml iawn. Yn ystod y rhodd gofynnir i chi gadarnhau a ydych yn drethdalwr yn y DU. Os ydych chi’n dewis ‘ie’ popeth sydd ei angen arnoch, yna’r cyfan sydd angen i chi wneud yw optio i mewn am rodd cymorth.

Mae’n bwysig nodi na allwch roi cymorth rhodd os nad ydych yn drethdalwr yn y DU. Dim ond ar roddion a wnaed gan unigolion sy’n talu treth incwm neu ar enillion cyfalaf y DU y gellir hawlio cymorth rhodd ar gyfradd sy’n cyfateb o leiaf i’r swm a adenillwyd ar eu cyfraniadau yn y flwyddyn dreth gyfredol.

Pryd na ddylid hawlio rhodd cymorth?

  • I brynu/cyfnewid gwasanaethau rhodd (er enghraifft, tocynnau i ddigwyddiad, raffl neu dombola. Yn ogystal, os darparwyd gwasanaeth yn gyfnewid am rodd).
  • Wrth wneud rhodd ar ran rhywun arall neu grŵp o bobl.
  • Wrth wneud rhodd ar ran cwmni.

Os ydych yn ansicr neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, gwiriwch www.gov.uk am gyngor ar Rodd Cymorth cyn gwneud eich rhodd.

Rhoddion busnes sy'n effeithlon o ran treth

Os yw’ch busnes yn cyfrannu at elusen, efallai y bydd rhyddhad treth ar gael i’ch cwmni. Am ragor o wybodaeth, ewch i Treth pan fydd eich cwmni yn rhoi i elusen: Trosolwg – GOV.UK

 

 

Bwriadu cynnal raffl neu ocsiwn?

Mae cynnal ocsiwn neu raffl yn ffordd wych arall o godi arian heb fawr o gostau i’w trefnu – a pheidiwch ag anghofio, mae’n beth hwyl i’w wneud!

Cliciwch yma i gyrchu gwefan y Rheoleiddiwr Codi Arian am fwy o wybodaeth.

Cliciwch yma i gyrchu gwefan y Comisiwn Gamblo am fwy o wybodaeth.

Fel arall, os hoffech i ni sefydlu’r raffl i chi, gallwn wneud hyn ar-lein. Cysylltwch â ni i drefnu hyn yn y cyfeiriad e-bost canlynol: PTHB.Charity@wales.nhs.uk

Rhodd ar ffurf Nwyddau

Nid rhoi arian yw’r unig ffordd y gallwch chi helpu. Bob blwyddyn, rydym yn derbyn cefnogaeth anhygoel gan gwmnïau sy’n rhoi offer, nwyddau, gwasanaethau neu hyd yn oed amser eu gweithwyr i’n helusen.

Mae rhoi rhodd ar ffurf nwyddau yn ffordd wych ac ystyriol i’n cefnogi.

Er enghraifft, efallai y bydd eich busnes yn gallu cynnig cynhyrchion neu wasanaethau a fydd yn helpu gwneud ein digwyddiadau yn llwyddiant mawr, hyd yn oed os yw hynny mor syml â darparu lluniaeth i’n gwesteion.

A phan fyddwch yn rhoi o’ch amser i’n helpu, boed yn codi arian yn eich gweithle, rhannu gwybodaeth gyhoeddus, gwerthu tocynnau digwyddiadau neu wirfoddoli i fod y stiward neu’n sefyll gyda bwced i gasglu arian yn ein digwyddiadau, byddwch yn gwneud cyfraniad sy’n wirioneddol bwysig.

I roi rhodd mewn nwyddau, e-bostiwch: PTHB.Charity@wales.nhs.uk

Ein Cynnig Partner Corfforaethol

Yn ddyddiol mae gennym nifer fawr o bobl, staff, cleifion, ymwelwyr a chontractwyr yn mynychu ein safleoedd ledled Powys, felly gallwn gysylltu eich busnes â phobl leol, sefydliadau lleol a’r gymuned leol.

Os hoffech drafod gweithio gyda ni i gefnogi ein helusen tra hefyd yn cyrraedd eich cwsmeriaid allweddol a’ch marchnadoedd targed, cysylltwch â ni drwy e-bostio: PTHB.Charity@wales.nhs.uk

Delwedd o booklet gwybodaeth Elusen Iechyd Powys a phensil yn cael ei rhoi i rywun

Cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr

Mae Elusen Iechyd Powys yn cyhoeddi cylchlythyr chwarterol, cofrestrwch i glywed am ein newyddion da, prosiectau newydd, ein hymgyrchoedd a chyfleoedd eraill o sut y gallwch ein cefnogi.