Pam Plymio o’r Awyr?
Roedden ni eisiau nodi ein pen-blwydd yn 30 oed gyda rhywbeth gwirioneddol gofiadwy. Mae neidio o awyren yn symbol pwerus o ddewrder, ymrwymiad a chymuned, gwerthoedd sydd wedi diffinio Elusen Iechyd Powys ers y diwrnod cyntaf. Mae hefyd yn gyfle i gyfranogwyr dicio profiad oddi ar restr bwced wrth godi arian ar gyfer achos sy’n cyffwrdd â bywydau bob dydd.
Sut i Gymryd Rhan
Mae lleoedd yn gyfyngedig ar yn cael eu cynnig ar sail y cyntaf i’r felin. I gofrestru:
- E-bostiwch PTHB.Charity@wales.nhs.uk i fynegi eich diddordeb
- Cwblhewch y ffurflen gofrestru
- Talwch eich blaendal o £25
Unwaith y bydd y tri cham wedi’u cwblhau, bydd eich lle wedi’i gadarnhau a gallwch ddechrau ar eich taith codi arian.
Eisiau Cefnogi Heb Neidio?
Mae digon o ffyrdd i gymryd rhan:
- Noddi Neidiwr: Cefnogwch rywun rydych chi’n ei adnabod neu dewiswch noddi cyfranogwr trwy ein tudalen codi arian gyhoeddus.
- Gwneud Rhodd: Mae pob cyfraniad yn ein helpu ni barhau â’n gwaith (dolen isod)
- Lledu’r Gair: Rhannwch y digwyddiad gyda ffrindiau, teulu a chydweithwyr i’n helpu ni gyrraedd mwy o bobl.
Bydd unrhyw arian a godir uwchlaw’r targed codi arian hwn yn cael ei ddyrannu i Gronfa Gyffredinol Powys gyfan.
