English English
Dilynwch ni

Gwneud cais am gyllid

Banner gwefan Elusen Iechyd Powys ddau galon
Delwedd o Ystafell Ddillad, aelod staff Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn goruchwylio dosbarth gwneud pottery.

Nod Elusen Iechyd Powys yw cefnogi iechyd a lles pobl Powys. Rydyn ni’n dosbarthu eich rhoddion hael i wasanaethau, wardiau a chymunedau ysbytai trwy amryw o brosiectau, rhai bach a rhai mawr.

Mae ceisiadau ar agor i bawb o fewn Bwrdd Iechyd Addysgu Powys (BIAP), Elusennau, grwpiau cymunedol a sefydliadau lleol eraill. Yn y bôn, mae angen i bob cais ddangos naill ai:

  • sut y bydd o fudd i iechyd pobl Powys
  • sut y bydd yn gwella gwasanaethau BIAP
  • sut y bydd yn gwella amgylchedd BIAP
Delwedd agos o rywun yn llenwi ffurflen gais

Sut y gallaf wneud cais?

Rydyn ni wedi ceisio gwneud y broses hon mor syml â phosibl.

Ar gyfer staff BIAP, ewch i’n tudalen SharePoint mewnol.

Ar gyfer grwpiau cymunedol Powys, elusennau neu sefydliadau eraill, rydym yn argymell yn gyntaf siarad ag aelod o’n tîm.

SharePointCysylltu â ni

Gwybodaeth bwysig

Popeth sydd angen i chi ei wybod cyn i chi wneud cais

Beth alla i wneud cais amdano?

  • Offer nad yw’n cael ei ddarparu gan y GIG
  • Gwelliannau i amgylchedd y claf (e.e. adnewyddu wardiau, dodrefn newydd)
  • Gwelliannau i amgylchedd staff (e.e. adnewyddu ardaloedd cyffredin, dodrefn newydd)
  • Cefnogaeth ar gyfer gwirfoddolwyr (e.e gwisg)
  • Llyfrau a deunyddiau addysgol
  • Hyfforddiant nad yw’n orfodol i staff
  • Prosiectau/ymgyrchoedd hybu iechyd
  • Costau staff ar gyfer prosiect penodol gyda chwmpas ac amserlen ddiffiniedig
  • Prosiectau ymchwil
  • Therapïau amgen/cyflenwol ar gyfer cleifion
  • Mentrau iechyd a lles staff

Beth ddylwn i ei wybod cyn gwneud cais?

  • Cyngor ein tîm yw, os yw eich prosiect o natur frys, eich bod yn cysylltu â nhw cyn gwneud cais i sicrhau y bydd yn cyrraedd y dyddiad cau.
  • Os yw’n gais sylweddol (yn gofyn am swm cyllido mawr neu gais ar raddfa fawr) cysylltwch â’n tîm, a fydd yn gallu helpu gyda’r cais.
  • Os ydych yn gwneud cais am gyllid ar gyfer offer, efallai y bydd angen i chi lenwi a chyflwyno ffurflen gais EDOF (Gall staff BIAP ddod o hyd i’r ffurflen yma – Offer Meddygol a Dyfeisiau).
  • Os ydych yn gwneud cais am gyllid i newid strwythur adeiladau, cyflenwad pŵer neu gyflenwad dŵr, yna bydd angen i dîm ystadau Bwrdd Iechyd Addysgu Powys fod yn rhan.
  • Os ydych chi’n gwneud cais am gyllid ar gyfer offer technegol, yna bydd angen i’r gwasanaethau digidol fod yn rhan.
  • Peidiwch â defnyddio Amazon i gael dyfynbris cyflenwyr. Chwiliwch am gyflenwr sy’n gallu creu anfoneb fusnes.
Delwedd o booklet gwybodaeth Elusen Iechyd Powys a phensil yn cael ei rhoi i rywun

Cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr

Mae Elusen Iechyd Powys yn cyhoeddi cylchlythyr chwarterol, cofrestrwch i glywed am ein newyddion da, prosiectau newydd, ein hymgyrchoedd a chyfleoedd eraill o sut y gallwch ein cefnogi.