Cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr
Mae Elusen Iechyd Powys yn cyhoeddi cylchlythyr chwarterol, cofrestrwch i glywed am ein newyddion da, prosiectau newydd, ein hymgyrchoedd a chyfleoedd eraill o sut y gallwch ein cefnogi.
Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan allweddol o'r gwasanaethau a ddarparwn, yn gwneud gwahaniaeth go iawn ac yn cyfoethogi profiad cleifion.

Mae gwirfoddolwyr yn chwarae rhan bwysig iawn yn y GIG, yn enwedig mewn sir wledig fel Powys. Mae ein gwirfoddolwyr yn rhan allweddol o’r gwasanaethau a ddarparwn, yn gwneud gwahaniaeth go iawn ac yn cyfoethogi profiad cleifion. Mae ein gwirfoddolwyr yn rhoi eu hamser ac egni er budd eraill yn ein cymuned.
Gallwch edrych ar gyfleoedd hyfforddi ar wefan Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Ffordd wych arall o gefnogi yw drwy ddod yn Eiriolwyr yr Elusen, neu’n Llysgennad yr Elusen.
Mae ein Heiriolwyr yr Elusen yn ein cefnogi ni mewn gwanhaol feysydd gwaith neu hyd yn oed yn y gymuned. Maent yn helpu hyrwyddo ein gwaith, yn annog mwy o bobl i gymryd rhan ac yn helpu dod â’r syniadau gwych o bob rhan o’r bwrdd iechyd yn fyw ar sut i wella gofal cleifion a datblygu a gofalu am ein staff.
Maent hefyd yn rhoi cyngor i bobl ar weithio gyda thîm ein helusen ynghylch rhoddion, codi arian a chael gafael ar arian ac efallai y byddant hefyd yn cynorthwyo gyda digwyddiadau elusennol.
Yn y cyfamser mae Llysgenhadon yr Elusen sydd fel arfer yn bobl y mae ein cymuned yn eu hadnabod, yn rhoi eu hamser i helpu hyrwyddo a chefnogi ein hymgyrchoedd a’n gweithgareddau.