English English
Dilynwch ni
Via Microsoft Teams Ar-lein

Sefydlwyd y Pwyllgor er mwyn craffu ac adolygu ar faterion sy'n ymwneud â chronfeydd elusennol y Bwrdd Iechyd.

Mae papurau ar gael yma
Delwedd o aelodau'r Pwyllgor Cronfeydd Elusennol

Pwyllgor Cronfeydd Elusennol

Bwrdd Iechyd Lleol Addysgu Powys yw Ymddiriedolwr Corfforaethol y Cronfeydd Elusennol a lywodraethir gan y gyfraith sy’n berthnasol i Fyrddau Iechyd Lleol, yn bennaf Deddf Ymddiriedolwyr 2000 a hefyd y gyfraith sy’n berthnasol i Elusennau, sy’n cael ei llywodraethu gan Ddeddf Elusennau 2022.

Mae’r Bwrdd yn dirprwyo cyfrifoldeb dros reoli’r elusen yn barhaus i’r pwyllgor Cronfeydd Elusennol sy’n gweinyddu’r arian ar ran yr Ymddiriedolwr Corfforaethol.

Yn unol â’r Rheolau Sefydlog a Chynllun Dirprwyo BIAP, mae’r Bwrdd wedi sefydlu’r Pwyllgor Cronfeydd Elusennol.

Pwrpas y Pwyllgor yw:

  • Goruchwylio cyfeiriad strategol a datblygiad Elusen BIAP.
  • Gwneud a monitro trefniadau er mwyn rheoli Cronfeydd Elusennol, o fewn y gyllideb, blaenoriaethau a meini prawf gwario a bennwyd gan y Bwrdd ac yn unol â fframwaith deddfwriaethol; a
  • Rhoi sicrwydd i’r Bwrdd, yn ei rôl fel ymddiriedolwr corfforaethol, o’r arian elusennol a ddelir ac a weinyddir gan y Bwrdd Iechyd.

 

Cysylltu â ni
Delwedd o booklet gwybodaeth Elusen Iechyd Powys a phensil yn cael ei rhoi i rywun

Cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr

Mae Elusen Iechyd Powys yn cyhoeddi cylchlythyr chwarterol, cofrestrwch i glywed am ein newyddion da, prosiectau newydd, ein hymgyrchoedd a chyfleoedd eraill o sut y gallwch ein cefnogi.