Roedd yr ymgyrch yn annog pobl i hybu eu lles drwy symud neu greadigrwydd, wrth godi arian ar gyfer achos lleol pwysig. Boed yn gerdded, beicio, darllen, gwau, pobi, neu ddawnsio, roedd pob milltir (neu’r hyn sy’n cyfateb yn greadigol) yn helpu i gyfrannu at rywbeth mwy.
