Cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr
Mae Elusen Iechyd Powys yn cyhoeddi cylchlythyr chwarterol, cofrestrwch i glywed am ein newyddion da, prosiectau newydd, ein hymgyrchoedd a chyfleoedd eraill o sut y gallwch ein cefnogi.

Mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn un o saith bwrdd iechyd yng Nghymru sy’n gyfrifol am gynllunio, comisiynu a darparu gwasanaethau iechyd lleol i fynd i’r afael ag anghenion lleol.
Bob blwyddyn mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn derbyn cyllideb gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau iechyd a gwella iechyd i 133,000 o bobl sy’n byw ym Mhowys – sir fawr, wledig o 2000 milltir sgwâr, tua chwarter màs tir Cymru.
Mae natur wledig iawn Powys yn golygu bod y mwyafrif o wasanaethau lleol yn cael eu darparu’n lleol, drwy feddygon teulu a gwasanaethau gofal sylfaenol eraill, ysbytai cymunedol a gwasanaethau cymunedol. Ond gydag ardal mor brin ei phoblogaeth nid oes gennym y màs critigol o bobl yn lleol i ddarparu Ysbyty Cyffredinol Dosbarth o fewn Powys. Felly, mae Bwrdd Iechyd Addysgu Powys yn cefnogi trigolion Powys i dderbyn gwasanaethau ysbyty arbenigol mewn ysbytai y tu allan i’r sir yng Nghymru a Lloegr.
Am fwy o wybodaeth am Fwrdd Iechyd Addysgu Powys gan gynnwys y newyddion a’r swyddi gwag presennol, cliciwch y ddolen hon: