Cofrestru i dderbyn ein cylchlythyr
Mae Elusen Iechyd Powys yn cyhoeddi cylchlythyr chwarterol, cofrestrwch i glywed am ein newyddion da, prosiectau newydd, ein hymgyrchoedd a chyfleoedd eraill o sut y gallwch ein cefnogi.

Pan fyddwch yn dewis codi arian i ni, rydych yn dewis cefnogi’r pethau bach ychwanegol hynny a all wneud byd o wahaniaeth i’r profiadau mae cleifion, staff ac ymwelwyr yn eu cael ym Mwrdd Iechyd Addysgu Powys. Nod Elusen Iechyd Powys yw cefnogi cleifion a staff, gwella eu lles a’u profiad, gan ddarparu prosiectau elusennol y tu hwnt i’r hyn y gellir ei ddarparu trwy gyllid y GIG.
Mae Elusen Iechyd Powys wedi ariannu cannoedd o brosiectau gyda’r prif bwrpas o ddarparu gwell gwasanaeth i gleifion ac amgylchedd gwaith gwell i staff GIG Powys.
Mae’r holl arian a godir yn cael ei ddefnyddio i wneud gwahaniaeth cadarnhaol. Gallai hyn amrywio o ddarparu cyfleusterau lles staff, gwella profiad y claf a rhoi cyfleoedd i’n staff ganolbwyntio ar eu lles neu hyd yn oed darparu offer ychwanegol i gleifion wella eu profiad cyffredinol.

Mae llawer o ffyrdd y gallwch chi godi arian er budd elusen Iechyd Powys i helpu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i iechyd a lles pobl Powys.
Os ydych chi’n hoff iawn o antur, yna gallech godi arian trwy heicio’r copaon o amgylch Powys, cymryd rhan yn ras hwyl, marathon neu ultra marathon neu drwy wneud y naid parasiwt honno rydych chi wedi meddwl amdani erioed.
Mae yna hefyd lawer mwy o ffyrdd eraill o godi arian, fel cynnal stondin cacennau, cael parti te, cynnal digwyddiad karaoke noddedig, neu gynnal cwis codi arian. Y cwestiwn yw, pa un fyddwch chi’n ei ddewis?
Efallai y bydd gennych hyd yn oed eich syniadau eich hun ar yr hyn y gallech ei wneud i godi arian at ein Helusen.
Beth bynnag rydych chi’n dewis ei wneud, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Ewch i’n tudalen Just Giving am lawer o awgrymiadau, help a chyngor os ydych chi’n cynnal eich digwyddiad eich hun.
Rydym yn dymuno pob lwc i chi ar eich ymdrechion codi arian ac ar ran staff a chleifion GIG Powys, hoffem ddiolch yn fawr i chi am ystyried codi arian ar ran Elusen Iechyd Powys.